Δεν σας αρέσει; Δεν πειράζει! Μπορείτε αν θέλετε να κάνετε επιστροφή εντός 30 ημερών.
Δεν θα κάνετε ποτέ λάθος με μια δωροεπιταγή. Χαρίστε στους αγαπημένους σας την επιλογή να διαλέξουν οι ίδιοι οτιδήποτε από τη συλλογή μας.
30 ημέρες για την επιστροφή των προϊόντων
Cyfrol yw hon ar hanes John Penry a'i gyfraniad i dwf Piwritaniaeth yn Lloegr. Treuliodd ei fywyd byr yn ysgrifennu traethodau maith o blaid yr angen am weinidogaeth bregethu yng Nghymru, ac ymunodd a'r Presbyteriaid yn Lloegr. Gwrthwynebodd yr Eglwys Sefydledig Brotestannaidd (1559) ar ddechrau teyrnasiad Elisabeth I, ac ymwrthod a'i threfn a'i gweinyddiaeth, yn arbennig swydd esgobion ynddi. Un prif elyn iddo oedd John Whitgift, Archesgob Caergaint, a cheisiodd hwnnw sicrhau y byddai'n cael ei ddedfrydu i farwolaeth am deyrnfradwriaeth gan i Penry feirniadu'r Frenhines a'i llywodraeth yn hallt am eu hesgeulustod yn gwrthod diwygo'r Eglwys ymhellach. Fe'i cysylltwyd a gwasg Biwritanaidd ddirgel yn Lloegr ac wedi cyfnod yn yr Alban dychwelodd i Lundain lle y bradychwyd ef, ac yntau erbyn hynny wedi troi'n Ymwahanwr a barhaodd i ddadlau dros anghenion crefyddol Cymru. Fe'i crogwyd ddiwedd Mai 1593 yn Llundain. Fe'i ystyrir gan lawer yn ferthyr dros Gymru.